Beth yw ymgynghori?
"Proses o drafodaethau, cyfranogi neu ymgysylltu sy'n arwain at benderfyniad neu'n llywio penderfyniad"
Rydym yn cynnal ymgynghoriad fel eich bod chi - y bobl sy'n byw yn Abertawe, neu'n gweithio neu'n ymweld ag Abertawe yn cael mynegi barn ar bethau a all effeithio arnoch.
Pan fyddwn yn gwneud darn o waith ymgynghori, byddwn bob amser yn ceisio dilyn yr egwyddorion hyn:
Credwn fod ymgynghori yn rhan hanfodol o gynllunio a chyflwyno gwasanaethau
Byddwn yn gweithio gyda sefydliadau eraill lle bo'n bosib i leihau unrhyw ddyblygu
Byddwn yn sicrhau nad oes gennym yr wybodaeth mae ei hangen arnom
Byddwn yn ceisio cynnwys pob unigolyn neu gymuned a all gyfrannu at neu yr effeithir arnynt gan unrhyw newidiadau arfaethedig i'w gwasanaethau
Byddwn yn defnyddio iaith glir
Byddwn yn esbonio wrthych pam y ceisir eich barn a sut y caiff y canlyniadau eu defnyddio
Bydd ein dulliau ymgynghori'n dilyn arfer da, yn gadarn ac yn addas i'r pwnc yr ymgynghorir arno
Byddwn yn ymgynghori mewn da bryd ac yn darparu gwybodaeth gefndirol ddigonol i'ch galluogi i roi ymateb hyddysg
Gwneir ymdrechion arbennig i nodi a thargedu pobl efallai sy'n llai abl i gymryd rhan mewn ymgynghoriad; gwneir pob ymdrech i sicrhau bod yr ymgynghoriad yn gynhwysol ac yn gynrychioliadol
Byddwn yn dweud wrthych beth fydd yn digwydd gyda chanlyniadau ymgynghoriad, pryd bydd adborth ar gael a sut y byddwch yn gweld yr adborth hwnnw