||
||
Newid maint y testun
| Testun yn Unig | Arferol| Cyferbynnu
Logo to act as a header and advert for Swansea Consultation Partnership|
Website URL : http://www.swanseaconsultationpartnership.org.uk/index.cfm?articleid=26115
||

Sut dylwn i ymgynghori?

Yn y pen draw, mae'r dull a ddewiswch yn dibynnu ar amrywiaeth o bethau. Mae'r dudalen hon yn edrych ar rai ystyriaethau posibl.

Sut y dylwn ymgynghori?

Cyn i chi ddechrau meddwl am eich dulliau - dylech hefyd ystyried y pethau canlynol:

  • A oes angen i chi wneud unrhyw waith ymgynghori?  Os oes penderfyniad wedi'i wneud eisoes ac ni fydd canlyniadau ymgynghori'n newid hynny - pam rydych yn ymgynghori? Byddwch yn colli ewyllys da unrhyw ymgynghoreion ar gyfer y dyfodol os byddant yn teimlo nad oes neb yn gwrando ar eu barn.
  • A oes gennych yr wybodaeth mae ei hangen arnoch eisoes? A oes unrhyw un arall wedi gwneud gwaith ymchwil neu waith ymgynghori ar yr un pwnc rydych yn ei ystyried? A allwch ddefnyddio eu canlyniadau?
  • A oes angen canlyniadau'r gwaith hwn ar unrhyw un arall? Allwch chi arbed arian ac amser a manteisio i'r eithaf ar arbenigedd pobl drwy weithio gyda rhywun arall ar hyn? Byddai'n well cydweithio na chynnal sawl gweithgarwch ymgynghori yn gofyn cwestiynau tebyg i grwpiau tebyg o bobl.
  • Beth yw eich cyllideb?  Os oes gennych gyllideb sefydlog, yna bydd hyn yn pennu pa ddulliau y gallwch fforddio eu defnyddio - mae'n well gwybod hyn ar ddechrau eich cynllunio yn hytrach nag ar ôl i chi baratoi eich briff.
  • Sut y defnyddir y canlyniadau? A ydych yn cadarnhau dealltwriaeth pobl o rywbeth? A ydych am wybod sut mae pobl yn teimlo neu pam maent yn teimlo fel hynny? Bydd bod yn glir ynghylch sut y defnyddir y canlyniadau yn eich helpu i flaenoriaethu eich dewisiadau o ran dull.
  • Beth yw eich gr?p ymateb targed? Bydd gwybod ychydig bach am eich cynulleidfa yn eich helpu i ddewis dull addas.

Yn y pen draw, mae sawl ffordd o ymgynghori â phobl. Mae angen i chi benderfynu beth yw'r dull gorau yn ôl eich gofynion - (yr hyn mae angen i chi ei wybod) a'ch adnoddau (amser ac arian).  

Yn gyffredinol, gellir trefnu eich opsiynau o dan ddau bennawd - dulliau ansoddol a dulliau meintiol. Cliciwch ar bob pennawd i ddysgu mwy amdano.

Qualitative research methods allow you to establish how people feel and think about a particular matter. These methods also allow you to go further and uncover the reasons behind these beliefs and opinions.
 
Mae ymchwil feintiol yn cynnwys casglu data o sampl mawr mewn ffordd strwythuredig a safonol
 
Mae llawer o ffyrdd gwahanol i gynnal ymgynghoriad - yn y pen draw, efallai byddwch yn dewis cyfuniad o ddulliau i ddarparu cyfres gytbwys a chadarn o ganlyniadau.
 
© 2010 Swansea Consultation Partnership
Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe. SA1 3SN. Ffôn: 01792 636000 Ffacs: 01792 636340