||
||
Newid maint y testun
| Testun yn Unig | Arferol| Cyferbynnu
Logo to act as a header and advert for Swansea Consultation Partnership|
Website URL : http://www.swanseaconsultationpartnership.org.uk/index.cfm?articleid=26033
||

Pecyn Cymorth Ymgynghori

Diben ymgynghori yw ceisio barn pobl a gwrando arnynt er mwyn cyrraedd penderfyniad hyddysg. Mae'n galw am ymagwedd gadarn, drefnus. Mae'r pecyn cymorth hwn yn ceisio helpu gyda hyn drwy ddarparu offer a thempledi.

Mae'r pecyn cymorth hwn ar gyfer pobl sy'n cynnal gweithgareddau ymgynghori ar gyfer eu sefydliad.

Cyn i chi feddwl am bwy y mae angen i chi ymgynghori â hwy, neu ba ddull y dylech ei ddefnyddio, mae'n werth deall pam y cynhelir gwaith ymgynghori yn y lle cyntaf, a pham ei bod yn werth cael hyn yn gywir.

Yn wahanol i sefydliadau'r sector preifat, nid oes gan y rhan fwyaf o'n cwsmeriaid yr opsiwn o fynd i rywle arall os ydynt yn anhapus â'r gwasanaeth. Rydym oll yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus, talu treth y cyngor, cael ein sbwriel wedi'i gasglu, defnyddio ein gwasanaeth iechyd neu wasanaethau brys. Ni allwn osgoi'r gwasanaethau hyn. Felly pam rydym yn ymgynghori? Pam mae'n bwysig gwybod beth yw barn pobl ar y gwasanaethau a dderbyniant?

Ceir sawl rheswm, dyma rai ohonynt:

Mae ymgynghori'n ein helpu i gynllunio a chyflawni gwasanaethau gwell, mwy ymatebol

Os rydym yn gwybod pwy yw'n cwsmeriaid a sut maent yn teimlo, gallwn gynllunio yn ôl y safbwyntiau hynny. Gallwn flaenoriaethu mewn perthynas ag angen gwirioneddol, yn hytrach na chanfyddiad o'r hyn mae ei angen.

Mae ymgynghori, cyfranogiad ac ymgysylltiad yn ein galluogi i weithio gyda'n cwsmeriaid

Dyna'n union yw darparu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar y dinesydd - darparu gwasanaethau o amgylch y dinesydd, neu'r cwsmer. Os ydym yn caniatáu i ddinasyddion gymryd rhan yn y broses gynllunio, maent yn rhanddeiliaid gweithredol sy'n cael gwasanaethau sydd wedi'u cynllunio o'u hamgylch, yn hytrach na derbynwyr goddefol.

Mae ymgynghori'n ein helpu i ddefnyddio ein hadnoddau'n well

Mae adnoddau cyfyngedig gennym oll. Gall ymgynghori ein helpu i ddatrys beth yw blaenoriaethau ac anghenion ein cwsmeriaid a chydbwyso'r rhain yn erbyn ein hymrwymiadau gwasanaeth a'n cyllidebau.

Mae ymgynghori'n ein helpu i fonitro a gwella ein perfformiad

Drwy ymgynghori â'n cwsmeriaid, gallwn fonitro ein cynnydd a defnyddio'r canlyniadau i wella ein perfformiad.

Os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu sylwadau am y pecyn cymorth, e-bostiwch consultation@swansea.gov.uk

Cynnwys pobl leol drwy ymgynghori a chyfranogi yw un o'r ffyrdd amrywiol y gallwn sicrhau bod ein gwasanaethau'n canolbwyntio ar ddefnyddwyr ac yn diwallu eu hanghenion gwirioneddol (yn hytrach na'r anghenion y tybir sydd ganddynt). Wrth ddechrau'r broses mae'n bwysig bod yn glir pam eich bod yn cynnal yr ymgynghoriad. Mae hyn yn golygu cael eglurder o ran y nodau a'r amcanion, a'r hyn sydd i'w gyflawni a'r rôl y bydd pobl yn ei chwarae.
 
Wrth gynllunio darn o ymgynghoriad, cyfranogaeth neu waith ymgysylltu, mae'n bwysig meddwl am eich cynulleidfa darged. Bydd y dudalen hon yn eich helpu i feddwl am bwy y dylech gynnwys yn eich ymgynghoriad.
 
Yn y pen draw, mae'r dull a ddewiswch yn dibynnu ar amrywiaeth o bethau. Mae'r dudalen hon yn edrych ar rai ystyriaethau posibl.
 
 
Dyma restr wirio gyflym sy'n cwmpasu'r prif feysydd y mae angen i chi feddwl amdanynt:
 
Dyma gasgliad o erthyglau a gynhyrchwyd gan amrywiaeth o sefydliadau a phartneriaethau a all eich helpu gyda'ch gwaith ymgynghori, cyfranogi neu ymgysylltu. Os hoffech gyflwyno unrhyw beth i'r dudalen hon, e-bostiwch rhian.foote@Swansea.gov.uk
 
© 2010 Swansea Consultation Partnership
Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe. SA1 3SN. Ffôn: 01792 636000 Ffacs: 01792 636340